Cerddor o Aberystwyth yw Georgia Ruth. Gan ddefnyddio dylanwadau gwerin i greu sain sy’n gwbl unigryw, fe enillodd ei halbwm gyntaf Week of Pines y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2013, ac fe’i henwebwyd ar gyfer dwy wobr yn y BBC Radio 2 Folk Awards.  

Bu Georgia yn cydweithio efo’r Manic Street Preachers ar Futurology yn 2014 cyn rhyddhau ei hail albwm Fossil Scale yn 2016. Mae hi hefyd wedi cydweithio efo The Gentle Good (enillydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2017) ac efo Gwyneth Glyn a Tauseef Akhtar ar eu prosiect Ghazalaw.

Mae hi’n paratoi i ryddhau ei thrydydd albwm – Mai – ym Mawrth 2020 trwy Recordiau Bubblewrap.

“Her own debut is a wonder, full of longing and melody” – MOJO 
“One of the British folk discoveries of the year” – The Guardian
“Georgia is finding her own distinct voice” – Q Magazine