To provide the best experiences, we use technologies like cookies to store and/or access device information. Consenting to these technologies will allow us to process data such as browsing behavior or unique IDs on this site. Not consenting or withdrawing consent, may adversely affect certain features and functions.
The technical storage or access is strictly necessary for the legitimate purpose of enabling the use of a specific service explicitly requested by the subscriber or user, or for the sole purpose of carrying out the transmission of a communication over an electronic communications network.
The technical storage or access is necessary for the legitimate purpose of storing preferences that are not requested by the subscriber or user.
The technical storage or access that is used exclusively for statistical purposes.
The technical storage or access that is used exclusively for anonymous statistical purposes. Without a subpoena, voluntary compliance on the part of your Internet Service Provider, or additional records from a third party, information stored or retrieved for this purpose alone cannot usually be used to identify you.
The technical storage or access is required to create user profiles to send advertising, or to track the user on a website or across several websites for similar marketing purposes.
Mai
From: £10.00
(CD/LP/DL)
VINYL YN ÔL YN STOC!
140g Vinyl Du mewn llawes 3mm + lawrlwythiad o’r albwm llawn a ‘Mai: 2’: Casgliad o ailweithiadau gan Gwenno, Accu, Quodega & Cotton Wolf
Ar ei thrydydd albwm, mae Georgia Ruth yn mynd i afael a’i gwreiddiau.
Yn dilyn genedigaeth ei phlentyn cyntaf, symudodd y cerddor a’i theulu yn ôl i’r dre lle’i magwyd hi – Aberystwyth. Recordiwyd ‘Mai’ yn Neuadd Joseph Parry y dre, dros gyfnod o wythnos yng Ngwanwyn 2019. Wedi’i henwi ar ol y cyfansoddwr a’r athro, defnyddiwyd yr ystafell anhygoel hwn ar gyfer cyngherddau siambr trwy gydol yr ugeinfed ganrif. Ac yn ystod sesiwn ‘Mai’, cafodd y cerddorion y pleser unigryw o wylio’r machlud dros gastell Aber wrth iddyn nhw recordio.
Description
“Lovingly embellished with richly-floral imagery, listening…is like getting agreeably lost in a beautiful garden of flowers, some nodding gently in soft summer breeze, others bobbing brightly.” – ★★★★★ Jon Lusk, BBC Music Magazine
“Lush Welsh pastorals and other odes to spring” – Neil Spencer, The Guardian
“Atmospheric spirituality runs through an album underpinned with natural world imagery, poetic lyrics and subtle soundscapes” – Mojo
“Textures of piano, guitars, synths, violins, cello, flute and pedal steel, arranged like new blooms in a May garden. By turns lyrical and lush, Mai marks a welcome return to the studio” Tim Cumming, Songlines
“an unobtrusive delight where the alternately lush and sparse conjured textures beguile the attentive listener in their careful response to Georgia’s ever-intriguing lyrical vision.” – David Kidman, Folk Radio UK
“Fans of Vashti Bunyan, the quieter moments of Talk Talk and gentle indie-pop will find succour here.” – Jude Rogers, tinyletter.com
“Utterly transfixing… beautifully arranged, played and recorded” – Adam Walton, BBC Radio Wales
Dyma gasgliad o ganeuon a sgwennwyd o grombil tŷ, tra bod plentyn bach yn cysgu.
Caneuon am y profiad o fod yn fam newydd, a’r ymgais i drio canfod defodau fyddai’n cyfleu’r newid byd. Am y teimlad o golli dy hunain, a chanfod dy hunain o’r newydd. Am y gerddi sy’n tyfu dan ddrysau cefn ynghanol y nos, a’r dyddiau sy’n llifo nôl drwy’r ffenest. Am y cysur rhyfedd o weld haul terracotta yn hongian ar wal mewn cegin yn y Gorllewin. Ac wrth wraidd y cyfan mae geiriau bythol Eifion Wyn – “Gwn ei ddyfod, fis y mêl”.
Myfyrdod ydi ‘Mai’ ar geisio darganfod gobaith yn y tymhorau, mewn byd lle mae sicrwydd Gwanwyn yn teimlo’n fwyfwy bregus. A’r ymgais i gofleidio gwylltni, a chariad.
Cynhyrchwyd yr albym ar y cyd efo Iwan Morgan (Meilyr Jones, Cate Le Bon, Richard James) a fe hefyd sy’n gyfrifol am beiriannu, micsio a mastro’r cyfan. Mae’r albwm yn dangos doniau criw arbennig o gerddorion sy’n cynnwys Iwan a Dafydd Huws (Cowbois Rhos Botwnnog), Stephen Black (Sweet Baboo), Ailsa Mair Hughes, Angharad Davies, Rhodri Brooks a Laura J Martin. Ceir llinynau byrfyfr, sacsoffon a gitar pedal-steel yn plethu gyda’r delyn – gan greu sain sy’n doreithiog a’n noeth yn ei dro.
Recordiwyd gyda chefnogaeth Help Musicians, a gyda charedigrwydd Prifysgol Aberystwyth.
Additional information
Finyl Potel Tryloyw, Finyl 'Heavyweight' Du, CD