GIGS!

I gyd-fynd efo rhyddhau fy albym newydd Fossil Scale, fyddai’n chwarae ambell gig o gwmpas y dyddiad rhyddhau.

Yn gyntaf, fyddai’n neud cwpwl o gigs solo. Fyddai yng ngwyl hyfryd Fforest Gather ger Cilgerran ar Awst 26ain, yna yn syth nol i Gaerdydd i gefnogi Villagers yn y Tramshed ar y 27ain.

Ar ddiwrnod rhyddhau’r album – Hydref 7fed – fyddai’n chwarae yn siop Spillers yng Nghaerdydd o 5.30 ymlaen. Dewch draw i gal sgwrs a chopi o’r albym wedi’i arwyddo!

A wedyn fyddai’n chwarau dau gig arbennig efo’r band lawn – ac ambell westai – yn Servant Jazz Quarters Llundain ar Hydref 11eg ac yn Chapter, Caerdydd ar Hydref 15fed.

Mae tocynnau ar gyfer yr holl gigs ar gael nawr, ac allai ddim aros i weld chi! Fyddai’n cyhoeddi mwy o gigs yn fuan iawn, felly llygaid barcuuuuuuud…

26.08.2016 – Fforest Gather (http://www.fforestgather.co.uk/)
27.08.2016 – Tramshed, Caerdydd (efo Villagers & White Kite) http://www.seetickets.com/event/villagers/tramshed/987915
07.10.2016 – Spillers Records (lansio’r albym yn y siop)
11.10.2016 – Servant Jazz Quarters (Llundain) http://www.alttickets.com/georgia-ruth-tickets
15.10.2016 – Chapter (Caerdydd) http://www.chapter.org/georgia-ruth-fossil-scale-album-laun…