AMDAN

Daw Georgia Ruth o Aberystwyth yn wreiddiol, ond mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd. Ar Hydref 7fed, 2016 bydd yn rhyddhau ei hail albwm – Fossil Scale – trwy Navigator Records. Ymysg y cerddorion sy’n ymddangos arno mae aelodau Cowbois Rhos Botwnnog, Meilyr Jones a Suhail Yusuf Khan (Yorkston Thorne Khan).


Enillodd Week of Pines, ei halbwm cyntaf (wedi’i chynhyrchu gan David Wrench) y Wobr Gerddoriaeth Gymraeg 2013-14, a chafodd hi ei henwebu ar gyfer y BBC Radio 2 Folk Awards. Roedd hi’n westai ar raglenni Steve Lamacq a Lauren Laverne ar BBC 6Music. Mae hi’n ymddangos ar ‘Divine Youth’, can ar albwm Futurology y Manic Street Preachers (2014).

Mae hi wedi teithio’n eang yn India dros y ddwy flynedd diwethaf: fel aelod o Ghazalaw, ac efo prosiect Folk Nations y Cyngor Prydeinig. Mae hi hefyd wedi perfformio yn Fietnam gyda’r Cyngor Prydeinig.

Mae Georgia yn cyflwyno rhaglen gerddoriaeth wythnosol ar BBC Radio Cymru. 

Photo by Kirsten McTernan
Photo by Kirsten McTernan

“A dazzling debut, rich with sweet pain and joy” – The Independent ****

“Her own debut is a wonder, full of longing and melody” – MOJO ****

“It could have been made in 1968, in the loveliest possible way” – Indy on Sunday ****

“One of the British folk discoveries of the year” – The Guardian

“Heaven.” – Lauren Laverne, 6Music